Dogfen Briffio ar gyfer y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol yn dilyn Penderfyniad Cyngor Celfyddydau Cymru i Ddileu Cyllid National Theatre Wales
National Theatre Wales Heddiw
Yn yr un modd ag wrth sefydlu unrhyw sefydliad cenedlaethol, nid oes un foment o darddiad neu unig ddechreuwr o safbwynt National Theatre Wales (NTW). Cafodd y cwmni ei greu trwy eiriolaeth helaeth, a hynny ym maes cefnogaeth gyhoeddus a chefnogaeth wleidyddol, gyda'r nod o sefydlu Theatr Genedlaethol Saesneg ei hiaith i Gymru. Dros sawl degawd, bu nifer o ymdrechion i sefydlu theatr o'r fath. O’r diwedd, daeth consensws i'r amlwg, gan ddwyn ynghyd ewyllys a grym gwleidyddol Llafur a Phlaid Cymru ill dwy, eiriolaeth gyson unigolion allweddol o fewn Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC), a chyd-ddealltwriaeth ymhlith y cyhoedd gwybodus bod ffurfio'r cwmni yn hanfodol ac yn briodol o ran amser. Arweiniodd yr ymdrech gydweithredol hon at sefydlu NTW yn 2007, a wnaed yn bosibl trwy'r "Cytundeb Cymru'n Un", a ddyrannodd arian ychwanegol o dan awdurdodaeth CCC i hwyluso ei sefydlu a'i weithrediad parhaus.
Mae'r penderfyniad i greu sefydliad newydd i ddathlu, cyfathrebu, a chataleiddio diwylliant esblygol cenedl hynafol yn weithred o optimistiaeth ddwys, meddwl hirdymor, a hyder. Yn 2023, mae NTW yn sefydliad cenedlaethol ifanc, ac mae wedi ymrwymo, fel y mae’n rhaid i bob sefydliad cyhoeddus wneud, i esblygiad parhaus ei fodel, ei raglen, a’i arferion er mwyn gwasanaethu anghenion cymdeithas Gymreig yr 21ain ganrif yn y ffordd orau. Gyda pharch, mae NTW yn annog y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol i ystyried ei gyfrifoldeb i ddal y llywodraeth i gyfrif yn ei rheolaeth dros asedau diwylliannol Cymru. Ymhellach, fel yr amlinellwyd yn y Cytundeb Cydweithredu, mae Plaid a Llafur wedi ymrwymo i sicrhau cynaliadwyedd ariannol sefydliadau diwylliannol cenedlaethol Cymru. O ystyried natur NTW, ei randdeiliaid, ac effaith sylweddol ei golli posibl sydd ar ddigwydd, mae NTW yn cwestiynu priodoldeb penderfyniad CCC i ddileu cyllid NTW drwy Adolygiad Buddsoddi blynyddol, heb ymgynghori’n ehangach â rhanddeiliaid allweddol, a heb ddarparu dadansoddiad tryloyw o effaith wedi’i ymchwilio’n dda a chynllun cadarn i fynd i’r afael â’r bylchau y bydd y golled hon yn eu creu yn y sector theatrau yng Nghymru.
Ymrwymiadau Blaenorol
Ymhellach i’r cwestiwn uniongyrchol, mae NTW yn credu bod pwynt pwysig ynglŷn â’r adnoddau ariannol a ddyrannwyd i NTW y mae’n rhaid ei ystyried. Yng Nghytundeb Clymblaid Mehefin 2007 rhwng Llafur a Phlaid Cymru, ymrwymodd y pleidiau i sefydlu Theatr Genedlaethol Saesneg ei hiaith i Gymru. Yn ôl yr hyn y mae NTW yn ei ddeall, roedd yr adnoddau ariannol newydd a ddyrannwyd yn wreiddiol i CCC i gefnogi’r gwaith o greu a gweithredu NTW wedi’u diogelu mewn modd wedi’i glustnodi’n sefydliadol, yn yr un modd â holl Gwmnïau Cenedlaethol Cymru, er yn amodol ar gyngor strategol ac asesiad rheolaidd gan CCC i gynnal a meithrin yr asiantaethau diwylliannol unigryw hyn i Gymru, a hynny gartref a thramor. O'r herwydd mae nid yn unig yn bosibl, ond yn ein cyflwyniad yn angenrheidiol, i'r Pwyllgor a'r Dirprwy Weinidog beidio â gweithredu'r egwyddor hyd braich ac yn hytrach i ystyried eu cyfrifoldeb i archwilio'r broses hanesyddol ac effaith penderfyniad CCC eleni yn y dyfodol. Gallai ymchwiliad i drafodaethau Pwyllgor Dethol Tŷ’r Cyffredin ar Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn 2005-6 fod yn destun Adroddiad hir arall yn hawdd. Mae'r deunydd yn hawdd ei gyrraedd.
Fel gyda phob sefydliad, yn ystod y tair blynedd diwethaf mae NTW wedi wynebu newidiadau a heriau sylweddol. Mae effeithiau dwys y pandemig, effeithiau parhaus yr argyfwng costau byw, costau staff a deunyddiau cynyddol, a gallu ariannol llai partneriaid o fewn y sector diwylliannol a thu hwnt i fuddsoddi mewn modelau cydgynhyrchu neu gyflenwi i gyd wedi gadael eu hôl. Fel cwmni theatr heb adeilad sy'n cyflwyno gwaith teithiol neu safle-benodol, mae model NTW yn gofyn am bartneriaeth draws-sectoraidd tymor canolig cymhleth ar gyfer cyflwyno, sy'n creu heriau ychwanegol ar gyfer ailddechrau ein rhaglen mewn byd ôl-bandemig. Dylid nodi hefyd yr oedd NTW oherwydd ein gorbenion isel yn un o ychydig iawn o'r sefydliadau diwylliannol mawr nad oedd yn rhaid iddynt dderbyn cyllid brys yn ystod y pandemig. Yn ystod y cyfnod hwn mae NTW wedi profi newid mewn Cyfarwyddwr Artistig/Prif Weithredwr, ailstrwythuro staff helaeth, newid yn y Cadeirydd, a phroses recriwtio cyhoeddus i’w Fwrdd sydd wedi arwain at gynnydd i’w groesawu mewn amrywiaeth ymhlith Ymddiriedolwyr NTW.
Mae’n hanfodol nodi bod NTW, drwy gydol y cyfnod hwn, wedi parhau i ddarparu ystod eang o gynyrchiadau theatr ledled Cymru, ynghyd â mentrau ymgysylltu cymunedol pellgyrhaeddol, rhaglenni datblygu artistiaid, adnoddau addysgol, a phartneriaethau â sefydliadau yng Nghymru a thu hwnt. Ynghlwm fel Atodiad 1 mae crynodeb byr o natur ac effeithiau’r rhaglenni a ysbrydolwyd ac a reolwyd gan NTW dros y tair blynedd diwethaf.
Fel cwmni, mae NTW yn cydnabod ers 2020 nad yw wedi cyflawni cynhyrchiad 'ysgubol' sydd wedi atseinio yn ymwybyddiaeth y cyhoedd yn null "The Passion" neu "City of the Unexpected." Ond mae ei waith mewn mannau eraill wedi bod yn helaeth iawn, yn ffrwythlon ac yn hynod effeithiol ledled y wlad. Mae NTW yn ymwybodol o feirniadaeth y gorffennol ym mlynyddoedd cynharach ei hanes.
Yn ystod y tair blynedd diwethaf, mae NTW wedi mynd i’r afael yn drwyadl â phryderon dilys a fynegwyd yn y byd artistig a gwleidyddol mewn modd tryloyw ac wedi cymryd camau breision mewn meysydd megis hyrwyddo a chefnogi gweithwyr creadigol Cymreig, sefydlu cysylltiadau strategol a gweithredol agosach â’r seilwaith diwylliannol yng Nghymru, comisiynu awduron Cymreig, a gweithredu polisi castio sy’n rhoi blaenoriaeth i actorion Cymreig. Mae gweledigaeth NTW ar gyfer dyfodol y cwmni wedi’i hamlinellu’n gyhoeddus yn ei Gynllun Strategol diweddaraf a gafodd dderbyniad da, sydd wedi’i atodi fel Atodiad 2.
Cyngor Celfyddydau Cymru
Drwy gydol y cyfnod hwn, nid yn unig y mae CCC wedi ymatal rhag mynegi pryderon am berfformiad neu gyfeiriad NTW, ond mynegodd hefyd gefnogaeth glir i gyflawni targedau y cytunwyd arnynt o'r newydd a dull strategol a adnewyddwyd. Mae'r teimladau cadarnhaol hyn wedi'u cofnodi'n glir yn Adroddiadau Blynyddol CCC. Ychydig cyn cyflwyno ei gais Adolygiad Buddsoddi 2023, gosodwyd NTW ar 'Risg Goch' gan CCC. Derbyniodd NTW sicrwydd yn ysgrifenedig ac ar lafar ar y pryd mai “ymateb system safonol” (sic) oedd hwn a ysgogwyd gan benodiadau diweddar Cyd-Gadeiryddion newydd i’r bwrdd a dau ychwanegiad newydd i’r Uwch Dîm Rheoli. Nododd CCC fod y prosesau hyn yn cael eu rheoli gan NTW heb bryder, a nododd hefyd nad oedd ganddo unrhyw bryderon ynghylch perfformiad NTW ynghylch ei dargedau a gytunwyd na'i reolaeth ariannol.
Teg felly yw gofyn y cwestiwn, os oedd gan CCC bryderon sylfaenol ynghylch cyfeiriad neu berfformiad NTW, pam na chodwyd y rhain yn ffurfiol gyda'r Bwrdd neu'r Rheolwyr mewn unrhyw fformat sydd gan CCC ar gael iddo? Pam na ddefnyddiodd CCC strategaethau fel ymyriad 'mesurau arbennig', fel y cymhwyswyd yn effeithiol gyda sefydliadau diwylliannol eraill yn y gorffennol? Ein honiad ni yw bod y methiant hwn i nodi neu gyfleu unrhyw bryderon difrifol, ac yna i wneud penderfyniad strategol a strwythurol mor fawr gyda goblygiadau eang i’r sector cyfan yn dystiolaeth o fethiant clir yn nyletswydd gofal CCC tuag at NTW a’i gylch gorchwyl ar gyfer Cymru gyfan. Gofynnwn yn barchus i’r pwyllgor archwilio diffyg gweithredu, diffyg cyfathrebu, a diffyg difrifol o ran tryloywder strategol a chyfathrebu CCC trwy gydol y cyfnod hwn.
Honiad NTW yw bod penderfyniad CCC i ddileu cyllid yn ymddangos yn gam gwleidyddol, sy'n cuddio fel un gweithredol. Mae Dafydd Rhys (Prif Weithredwr CCC) wedi datgan dro ar ôl tro yn gyhoeddus ac yn breifat bod “cais NTW” (ar gyfer buddsoddiad o 2024 ymlaen) "heb argyhoeddi."
Mae NTW yn dadlau'n gryf â'r disgrifiad hwn o'i gais ac mae ganddo hyder yn uchelgais a soffistigedigrwydd ei gais Adolygiad Buddsoddi. Mae NTW wedi cyflwyno apêl yn erbyn penderfyniad CCC. Mae'r apêl yn helaeth ac yn fanwl, ac yn dangos bod NTW wedi mynd i’r afael yn addas â phob pwnc a gwestiynwyd gan CCC, gan ddarparu cynigion manwl a thystiolaeth y gellir eu deall yn hawdd, ac mewn modd, graddfa a chwmpas sy’n cyd-fynd â ffurflen gais CCC.
Mae'r apêl hefyd yn dangos yn gynhwysfawr bod dyfarniad CCC yn seiliedig ar o leiaf un gwall materol; yn cymryd i ystyriaeth ystyriaethau amherthnasol; yn methu ag ystyried ystyriaethau perthnasol a materol; ac nid yw'n cyd-fynd â'i ganllawiau a'i safbwynt strategol ei hun.
Mae'n bwysig nodi bod cwmpas apêl o dan reolau CCC wedi'i gyfyngu'n llym i asesu a yw CCC wedi cadw at ei weithdrefnau ei hun. Nid yw'n caniatáu craffu cyhoeddus ar asesiad CCC o gais NTW, na sut maegwerthuswyr CCC wedi meintioli neu gymhwyso effaith eu penderfyniadau ar y sector theatr/celfyddydau ehangach. Nid yw CCC wedi cyhoeddi unrhyw strategaethau ffurf ar gelfyddyd, unrhyw asesiad o effaith nac unrhyw rai o'r offer arferol ar gyfer eu penderfyniadau i’w cwestiynu’n briodol, ac nid oes ychwaith Gynllun Strategol neu Fusnes cyfredol ehangach y mae eu Portffolio Celfyddydau newydd yn cyd-fynd ag ef.
Mae gan NTW hefyd bryderon difrifol am dryloywder ac annibyniaeth y broses apelio. Ynghlwm wrth y papur briffio hwn mae gohebiaeth rhwng CCC ac NTW Atodiad 3. Yn yr ohebiaeth hon, mae NTW yn gofyn am dryloywder ar y broses ar gyfer penodi unigolion annibynnol i farnu’r apêl mewn modd sy’n gyson ag Egwyddorion Nolan a’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Mae CCC wedi cymryd y safbwynt rhyfeddol na fydd yn rhyddhau unrhyw fanylion ynglŷn â sut y penodir yr adolygydd annibynnol, sut y caiff gwrthdaro buddiannau eu datgan na phwy yw'r adolygwyr annibynnol naill ai yng ngham cyntaf neu ail gam yr apêl. O ystyried bod rhan CCC yn y broses gwneud penderfyniadau bellach ar ben, dylai ei rôl yn awr gael ei chyfyngu i gyflwyno ei achos. Er hynny, yn ôl y rheolau y mae wedi'u gosod, mae'n dal yn gallu dylanwadu ar ganlyniad apêl drwy benodiadau. Mae hyn yn creu sefyllfa lle gofynnir i NTW, a phob ymgeisydd arall yn y broses apelio, dderbyn sicrwydd o annibyniaeth a thryloywder na ellir ei wirio.
Ar ôl cyhoeddi’r toriad o 100% i NTW, datgelodd CCC hefyd ei fwriad (am y tro cyntaf) i gynnal 'Adolygiad Strategol o'r Ddarpariaeth Theatr Saesneg ei hiaith yng Nghymru.' Mae NTW yn credu bod tair agwedd arwyddocaol y mae’n rhaid mynd i’r afael â nhw ynglŷn â’r bwriad polisi newydd hwn:
Beth fyddai'n cael ei golli?
Y Ffordd Ymlaen:
Mae penderfyniad CCC i ddileu cyllid NTW heb ymgynghori, heb unrhyw gynllunio tryloyw ar gyfer goblygiadau’r penderfyniad hwnnw, ac yn absenoldeb strategaeth i gefnogi unrhyw bontio i fodel busnes newydd, wedi creu problem gymhleth a brys i’r sector. Ym marn NTW, mae tri llwybr posibl ymlaen yn fras:
1. Mae apêl NTW yn llwyddiannus ac mae CCC yn adfer rhywfaint neu'r cyfan o'r Cyllid Buddsoddi y gofynnwyd amdano. Mater posibl gyda'r canlyniad hwn yw nad yw adnoddau ariannol CCC wedi’u neilltuo ar gyfer sefydliadau unigol ond maent wedi’u dyrannu o fewn y cynigion amodol a wnaed i gleientiaid newydd ym mhortffolio CCC ac wedi’u hamsugno o fewn y toriad net o £533,250 i'r theatr. Bydd unrhyw adennill o'r adnodd hwn gan y cleientiaid hynny felly yn achosi aflonyddwch enfawr a drwgdeimlad sylweddol o fewn y sector.
2. Nid yw apêl NTW yn llwyddiannus ac ni ellir cytuno ar fodel refeniw craidd o unrhyw ffynhonnell neu lwybr arall.O ystyried yr amserlen fer iawn y mae’r digwyddiadau hyn yn datblygu ynddi, nid yw’n ymddangos yn gredadwy, nac yn wir yn bosibl y gall NTW ddatblygu a sefydlu unrhyw fodel busnes newydd cynaliadwy rhwng nawr a dechrau’r flwyddyn ariannol nesaf. Yn yr achos hwn, y canlyniad mwyaf tebygol yw bod NTW yn cyflawni’r prosiectau y mae wedi ymrwymo iddynt yn y flwyddyn ariannol gyfredol ac yna naill ai’n dechrau’r broses o ddirwyn y cwmni i ben o fis Ebrill 2024, neu’n lleihau’r cwmni i staff sgerbwd heb unrhyw amcanion cyflawni cyhoeddus, tra'n ceisio sefydlu model busnes newydd. Yn amlwg, byddai staff allweddol yn gadael a, gyda llai o gyllid ar gyfer y theatr yng Nghymru, rydym mewn perygl o golli’r union dalent y sefydlwyd NTW i’w datblygu i sectorau neu wledydd eraill.
3. Model interim. Mae CCC, Llywodraeth Cymru a NTW yn cydweithio i ddiffinio cylch gwaith gweithredu tair blynedd a model cymorth i NTW. Byddai hyn yn galluogi NTW i:
a. cyfrannu'n llawn at unrhyw 'Adolygiad Strategol' arfaethedig o theatr Saesneg ei hiaith;
b. ymchwilio a datblygu ffrydiau incwm a ffynonellau ariannu newydd cynaliadwy ar amserlen realistig. Byddai'r gwaith hwn yn canolbwyntio'n benodol ar bartneriaeth fasnachol, gweithio traws-sector gyda'r diwydiannau creadigol, cydweithio rhyngwladol a theithiau domestig;
c. cynnig model cynhyrchu hyblyg ac ymatebol i fynd i'r afael â chanlyniadau'r 'Adolygiad Strategol' arfaethedig unwaith y bydd ei baramedrau a'i gylch gwaith wedi'u pennu.
Mae NTW yn diolch i'r Pwyllgor am ystyried y papur briffio hwn ac yn gwahodd yn gynnes unrhyw geisiadau am archwilio pellach neu fanylach unrhyw rai o'r cwestiynau neu'r meysydd a godwyd. Er gwybodaeth rydym hefyd yn atodi taflen ffeithiau, Atodiad 5, o rai o'r paramedrau gweithredu a chyd-destun model presennol a hanesyddol NTW yn ogystal â mynd i'r afael â rhai camsyniadau ac anghywirdebau cyffredin mewn sylw diweddar y mae’r cwmni wedi’i gael.